Text Box: Carl Sargeant AC 
 Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol 
 Llywodraeth Cymru

 

                                                                                                28 Medi 2015

Annwyl Carl

Bil yr Amgylchedd (Cymru) – Rhagor o wybodaeth

Ar ôl ichi ddod i'n cyfarfod ar 16 Medi 2015, byddwn yn ddiolchgar o gael rhagor o wybodaeth am sawl mater a godwyd.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddarparu'r canlynol:

·         Canran y tir yng Nghymru a fyddai'n cael ei effeithio o ganlyniad i Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwrthod rhoi caniatâd i ddeddfu Rhan 6 y Bil;

·         Manylion am sut y mae'r cynlluniau peilot 'treialu ardal' (sy'n ymwneud â 'datganiadau ardal') wedi perfformio, unwaith y bydd y wybodaeth ar gael;

·         Cadarnhad a wnaeth yr adroddiad a gynhaliwyd gan Eunomia (a ddefnyddiwyd i lywio asesiad o effaith reoleiddiol y Bil) edrych ar ddim ond y tanciau malu traddodiadol ac nid ar biodreulwyr ensymau a/neu systemau adfer dŵr bwyd; a

·         Nodyn ar y trefniadau ar gyfer cadw incwm ffioedd o drwyddedu morol ar gyfer ailfuddsoddi yn y gwasanaeth hwnnw.

At hynny, gofynnaf am gopi o lythyr Ysgrifennydd Gwladol Cymru at Brif Weinidog Cymru mewn perthynas â chaniatâd Gweinidog y Goron. Os nad yw ar gael yn y byrdymor, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau'r math o ganiatâd y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i roi a'r math o ganiatâd y mae wedi'i wrthod.


 

Yn gywir

Description: P:\OPO\Committees\Committees (2011-2016)\Env & Sustainability\Correspondence\Chair's correspondence\Alun Ffred Jones sig.jpg

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd